Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 25 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.34 - 11.00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Margaret Everson, Bus Users UK Cymru Jones, Defnyddwyr Bysiau Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
View the meeting transcript.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
2.1 P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r deisebydd am ei ymateb i lythyr y Llywydd a, thrwy hynny, dynnu sylw at gynnig y Llywydd i drefnu cyfarfod i drafod y materion gyda'r staff perthnasol yn y Cynulliad; ac
· ysgrifennu at y Llywydd yn gofyn am eglurhad o'r gwaith a gafodd ei wneud mewn cysylltiad â'r cynllun peilot ac am wybodaeth bellach am y rhesymau dros y penderfyniad i'w ddal yn ôl.
2.2 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog:
· i gael ei barn am awgrym y deisebydd ynghylch yr arwyddion rhybuddio o ran cyfyngiadau cyflymder ac, yn benodol:
o ei barn ynghylch awgrym y deisebydd y byddai arwyddion sy'n dangos gwir gyflymder cerbydau yn llawer llai costus ac yn fwy effeithiol;
o gwybodaeth bellach am gostau'r gwahanol arwyddion rhybuddio; a
2.3 P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i'r rhai sy'n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am unrhyw sylwadau ar lythyr y Gweinidog, gan nodi y bydd y Cynulliad yn symud i gau'r ddeiseb o ystyried datganiad clir y Gweinidog nad oes ganddi unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ymestyn cymhwysedd ar gyfer pasys bws rhatach.
2.4 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu ar frys at y Gweinidog i:
· gyfleu sylwadau'r deisebydd a gofyn pa gamau a gymerwyd i gynnwys y deisebydd yn y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen a'r ymgynghoriad, fel y nodwyd yn llythyr 3 Awst; a
· gofyn a yw'n bosibl o hyd i ystyried barn y deisebydd.
2.5 P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog i ofyn:
o a yw ei swyddogion mewn sefyllfa i roi rhagor o fanylion ynghylch sut y penderfynwyd ar amcangyfrif o £15 miliwn a pha gyfran o hyn y gellir ei briodoli i arbedion ar feddyginiaethau HIV gwrth-retrofeirysol; ac
o am wybodaeth benodol ynghylch y rhesymau dros hyd y cyfnodau presgripsiwn presennol am feddyginiaethau gwrth-retrofeirysol; ac
· at y deisebydd yn gofyn am sylwadau ar lythyr y Gweinidog a gwybodaeth gysylltiedig.
2.6 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog i groesawu ei hymateb a gofyn iddi hysbysu'r Pwyllgor o ddatblygiadau yn y meysydd a nodir yn y paragraff olaf ond un yn llythyr y deisebydd;
· mynegi pryder i'r Gweinidog ynghylch y diffyg ymateb gan ddau o'r Byrddau Iechyd a gofyn pa gamau y mae wedi'u cymryd i sicrhau y bydd y wybodaeth honno ar gael; ac
· yn unol â chais y deisebydd, rhannu'r grynodeb lawn o ymatebion â changen Sir Benfro o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru.
2.7 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan NDCS a chytunodd i edrych yn fwy manwl ar y mater o acwsteg mewn ysgolion, yn arbennig sut y gall y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif a rheoliadau adeiladu helpu i gynnal y gwelliannau.
2.8 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am farn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog; a
· gofyn am ragor o wybodaeth gan y grŵp llywio a sefydlwyd i oruchwylio'r diwygiadau i Fagloriaeth Cymru ynghylch unrhyw ystyriaethau sydd ganddynt i gynnwys gwyddor gwleidyddiaeth yn y cwricwlwm;
· aros am ganlyniadau'r holiadur sy'n cael ei ddosbarthu gan dîm addysg y Cynulliad; a
· gofyn i Glerc y Pwyllgor gadw mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth Ymchwil ynghylch y gwaith o geisio â chael gwybodaeth mwy cynhwysfawr gan ysgolion ynghylch a ddylid cynnwys gwyddor gwleidyddiaeth yn eu cwricwlwm ABCh, a sut i wneud hynny.
2.9 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ofyn eu barn am y gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysgolion yn Lloegr ac i ofyn pam nad oes gofyniad statudol i hysbysu myfyrwyr a rhieni o drefniadau rheoli asbestos mewn ysgolion; a
· gofyn am farn y deisebydd ynghylch y cyngor cyfreithiol a roddwyd yn y cyfarfod.
3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Cyfrifoldeb dros Faterion y Gymraeg.
Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ynghych cyfrifoldeb dros y Gymraeg
4 Sesiwn Dystiolaeth - Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
4.1 P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
4.2 P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo
4.3 P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru